Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 23 Chwefror 2012

 

 

 

Amser:

09:15 - 12:00

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200002_23_02_2012&t=0&l=cy

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Mark Drakeford (Cadeirydd)

Mick Antoniw

Rebecca Evans

Vaughan Gething

William Graham

Elin Jones

Darren Millar

Lynne Neagle

Lindsay Whittle

Kirsty Williams

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Prof. John Bolton, y Sefydliad Gofal Cyhoeddus, Prifysgol Oxford Brookes

Julie Jones, y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth

Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

John Moore, Fy Mywyd mewn Cartref Cymru

Tom Owen, Fy Mywyd mewn Cartref

Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Alun Thomas, Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Meriel Singleton (Clerc)

Catherine Hunt (Dirprwy Glerc)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

 

 

 

<AI1>

1.  Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Nid oedd dirprwyon.

 

</AI1>

<AI2>

2.  Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - Tystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hyn Cymru

2.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar ofal preswyl i bobl hŷn.

 

2.2 Cytunodd y Comisiynydd i rannu ymchwil ar chwythu’r chwiban gyda’r Pwyllgor pan fydd yr ymchwil hwnnw ar gael.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am wybodaeth am y cynnydd a wnaed ynghylch hyrwyddo confensiwn gan y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl hŷn.

 

</AI2>

<AI3>

3.  Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn  - Tystiolaeth gan raglen Fy Mywyd mewn Cartref

3.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar ofal preswyl i bobl hŷn.

 

 

</AI3>

<AI4>

4.  Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - Tystiolaeth gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth a'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus

4.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar ofal preswyl i bobl hŷn.

 

4.2 Cytunodd yr Athro Bolton i ddarparu copi o’r ymchwil a wnaed gan yr Athro Andrew Kerslake (y Sefydliad Gofal Cyhoeddus) ar y cliciedau iechyd a all arwain at sefyllfa lle bydd unigolyn yn cael mynediad at ofal preswyl.

 

4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am gopi o adroddiad a luniwyd gan y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn Lloegr ynghylch dadansoddiad cyllidebol o’r cwmni Four Seasons Health Care.

 

 

</AI4>

<AI5>

5.  Papurau i'w nodi

 

5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

</AI5>

<AI6>

 

</AI7>

<AI8>

6.  Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 7

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig i wahardd aelodau’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 7.

 

</AI8>

<AI9>

7.  Goblygiadau iechyd cyhoeddus cyfleusterau toiledau cyhoeddus annigonol - Ystyried crynodeb o'r dystiolaeth

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar oblygiadau iechyd cyhoeddus cyfleusterau toiledau cyhoeddus annigonol, a chytunodd ar grynodeb ohoni.

 

</AI9>

<AI10>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>